Cytundeb fframwaith gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd yn Gymraeg
Aeth ein fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd yn Gymraeg (NPS-PS-0078-17) yn fyw ar 1 Tachwedd 2018, ac mae ar gael i'w ddefnyddio gan y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r fframwaith yn darparu Sefydliadau Cwsmeriaid GCC â gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd o ansawdd uchel, o Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg, ar gyfer y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.
Ceir gwybodaeth ynglŷn â'r darparwyr penodol sydd ar gael ar bob Lot yng nghanllawiau'r Fframwaith ar GwerthwchiGymu (mae angen mewngofnodi).
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GwerthwchiGymru (mae angen mewngofnodi) neu cysylltwch â ni drwy e-bostio: NPSProfessionalServices@llyw.cymru