Y Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Adolygiad Caffael
Ni chafwyd unrhyw gonsensws o'r fath ar fodel gwasanaeth yn y dyfodol ar gyfer y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC).
Yn ystod dwy sesiwn gweithdy undydd Grŵp Cyflawni'r Adolygiad, cytunwyd y dylai Gwerth Cymru wneud y canlynol:
- Datblygu polisïau caffael a chefnogi Gweinidogion mewn ffordd gydweithredol
- Cefnogi'r rhai sy'n caffael yn y sector cyhoeddus mewn ffordd ymarferol
- Helpu i feithrin gallu, gan gynnwys rhoi hyfforddiant
- Sicrhau bod llif o staff talentog yn y dyfodol, gan gynnwys rhoi hyfforddiant proffesiynol
Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, fel aelod o Grŵp Rhanddeiliaid yr Adolygiad, wedi herio Tîm yr Adolygiad i nodi'r hyn y dylai gwasanaethau caffael ei gyflawni er mwyn i'r Adolygiad allu llunio model sy'n gwneud hynny orau.
Mae trafodaethau tebyg ynghylch gwasanaethau'r GCC wedi dechrau drwy ofyn a ddylid rheoli categorïau gwahanol yn genedlaethol, yn rhanbarthol neu'n lleol.
Mae cefnogaeth eang i ymdrin â TGCh, cyfleustodau a fflydoedd yn genedlaethol. Roedd rhanddeiliaid llywodraeth leol o blaid caffael bwyd yn lleol neu'n rhanbarthol.
Mae Tîm yr Adolygiad Caffael hefyd wedi llunio adroddiad sylfaenol ar y cyd â rhanddeiliaid sy'n nodi'r ffeithiau a'r ffigurau y mae'r modelau gwasanaeth presennol yn seiliedig arnynt.
Dolenni: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Adolygiad Caffael (Mai, 2018)
Diweddariad yr Adolygiad Caffael (Ebrill, 2018)
Cysylltwch â: NPSCommunications@llyw.cymru
Ffynhonnell: Tîm yr Adolygiad Caffael