Fframwaith gwasanaethau ceblo strwythuredig
09 Awst 2016
Mae Fframwaith Gwasanaethau Ceblo Strwythuredig y GCC wedi cychwyn ac mae nawr ar gael at ddefnydd y sector cyhoeddus Cymreig. Cafodd ei ddyfarnu ar draws 6 lot daearyddol i’r cwmnïau canlynol:
- Gogledd-Ddwyrain Cymru: Direct Line Communications Ltd; Hunter Communication Services Ltd; i Data Com Ltd
- Gogledd-Orllewin Cymru: electrical estimates; i Data Com Ltd; Stoneleigh Consultancy Ltd
- De-Ddwyrain Cymru: Centerprise International Ltd; Sceptre Networking; Stoneleigh Consultancy Ltd
- De-Orllewin Cymru: Centerprise International Ltd; RGD King Ltd; Sceptre Networking
- Canolbarth a Gorllewin Cymru: electrical estimates
- Cymru Gyfan: Electranet Ltd; INS Sudlows Ltd
Mae’r canllawiau i gwsmeriaid ar gael ar wefan GwerthwchiGymru.
Bydd y GCC yn trefnu digwyddiadau lansio i gwsmeriaid er mwyn i randdeiliaid gwrdd â chyflenwyr ym mis Rhagfyr. Manylion i ddilyn yn nes at y dyddiad.
Mae Cyfeiriadur Contractau eFasnachu Basware yn cael ei ddiweddaru a bydd y Dyfynbris Cyflym ar gael yn fuan. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu lanlwytho i wefan GwerthwchiGymru cyn bo hir.
Gall cwsmeriaid hefyd ddefnyddio’r Cerdyn Pryniant Cymreig (Barclaycard) ar gyfer y fframwaith hwn.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk.