Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion digidol, data a TGCh
Cytundeb adnoddau digidol a TGCh ystwyth
Gwnaethom benodi Bloom Procurement Services Ltd fel unig gyflenwr i ddarparu adnoddau digidol a TGCh o gronfa o gyflenwyr adnoddau a reolir.
Mae'r fframwaith yn golygu bod modd i sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru brynu adnoddau drwy Ddatganiadau Gwaith (SoW) ar wahân â therfynau amser. Mae'n cynnig llwybr hyblyg a chydymffurfiol i ddefnyddio'r sgiliau a'r arbenigedd sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith o gyflwyno prosiectau TGCh.
Bydd Bloom yn cyflwyno'r fframwaith mewn partneriaeth ag Atebion Solutions. Cewch gyfle i gwrdd â Bloom ar ei stondin yn Procurex Cymru, ar 8 Tachwedd 2018, lle byddant yn lansio'r fframwaith ac yn dangos y system y bydd sefydliadau cwsmer yn ei defnyddio.
Bydd cwmnïau sydd am gofrestru fel darpar gyflenwyr adnoddau ar y fframwaith hwn hefyd yn defnyddio'r un system.
Mae nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu wedi'u trefnu gan Bloom ledled Cymru er mwyn cefnogi lansiad y fframwaith. Gweler isod am ragor o wybodaeth:
Lleoliad | Dyddiad | Amser |
---|---|---|
TechHub, Abertawe | Dydd Mawrth 27 Tachwedd | 08:00 – 12:00 |
Canolfan Fusnes Conwy | Dydd Iau 29 Tachwedd | 08.30: 12.00 |
Tramshed Tech, Caerdydd | Dydd Mawrth 4 Rhagfyr | 08:00 – 12:00 |
Os hoffech drafod y fframwaith neu drefnu sesiwn friffio benodol ar gyfer eich sefydliad / sector, cysylltwch â ni yn NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru.
Gall sefydliadau cwsmer neu ddarpar gyflenwyr adnoddau gysylltu â Bloom drwy'r blwch negeseuon e-bost Adira@bloom.services
Mae'r holl ddogfennau canllaw i gwsmeriaid bellach ar gael ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi).
Cytundeb Fframwaith Cynhyrchion a Gwasanaethau TGCh (ITPS) y GCC
Mae adolygiad i werthuso p’un a ddylid ymestyn y fframwaith wedi'i gwblhau. Cafodd yr arfarniad o opsiynau ei gyflwyno i Grŵp Cyflenwi'r GCC â'r argymhelliad i ymestyn y fframwaith 12 mis. Ni chafwyd gwrthwynebiadau.
Mae cytundeb fframwaith ITPS wedi'i ymestyn tan 3 Ionawr 2020 a rhoddwyd gwybod i'r cyflenwyr am hyn.
Ewch i GwerthwchiGymru i weld y rhestr ddiweddaraf o gyflenwyr.
Cysylltwch â'r Tîm Categori TGCh os oes gennych unrhyw ymholiadau NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru.
Cytundeb fframwaith system rheoli llyfrgelloedd (LMS) y GCC
Bydd cyflenwr y fframwaith LMS yn cynnal ymarfer meincnodi yn ystod y misoedd nesaf. Caiff yr allbwn ei rannu â sefydliadau cwsmer yr awdurdodau lleol sy'n defnyddio'r fframwaith, er mwyn helpu i roi gwybod iddynt am eu hopsiynau ar ôl i'r fframwaith ddod i ben ar 2 Medi 2020.
Digwyddiad eDaliadau
Grŵp Defnyddwyr Blynyddol eDaliadau – Barclaycard
Canolfan Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr ar 15 Tachwedd.
Er mwyn mynegi eich diddordeb, cysylltwch â Janet.Reed@barclaycard.co.uk
Procurex – Cyflenwyr TGCh y GCC
Bydd modd i gwsmeriaid gwrdd â chyflenwyr TGCh canlynol y GCC ar eu stondinau yn Procurex Cymru, sy'n cael ei gynnal yn Arena Motorpoint, Caerdydd ar 8 Tachwedd 2018.
Fframwaith | Cyflenwyr |
---|---|
System Brynu Ddynamig ar gyfer Digideiddio Storio a Gwaredu (DS&D) |
Elite Paper Solutions (ar stondin WCVA) |
Fframwaith dyfeisiau amlswyddogaeth a gwasanaethau cysylltiedig | Altodigital Konica Minolta Business Solutions (DU) Ricoh UK Ltd XMA Ltd |
Cytundeb adnoddau digidol a TGCh ystwyth | Bloom Procurement Services |
Fframwaith cynhyrchion a gwasanaethau TG | Centerprise International Ltd Comcen Computer Supplies Ltd Softcat |