Newyddion cryno am faterion digidol, data a TGC
Cytundeb Adnoddau Digidol a TGCh Ystwyth
Mae'r tendr am gontract cyflenwr unigol ar gyfer y Cytundeb Adnoddau Digidol a TGCh Ystwyth bellach ar gau ac mae gwerthusiadau wedi dechrau.
Y dyddiad ‘lansio’ arfaethedig yw 1 Hydref 2018.
Diben y cytundeb yw:
- penodi "partner cyflenwi" i sicrhau bod adnoddau ar gael ar sail niwtral ac yn ôl maint elw penodedig safonol drwy sector cyhoeddus cyfan Cymru
- lleihau cymhlethdod wrth gyflwyno adnoddau
- manteisio ar sgiliau ac arbenigedd i ategu adnoddau mewnol a gallu mewnol sefydliadau cwsmer
- sicrhau bod cadwyn gyflenwi amrywiol, gan gynnwys microfusnesau, ar gael.
Caiff yr adnoddau eu prynu drwy Ddatganiadau Gwaith ar wahân â therfynau amser, gan sicrhau mai dim ond gwasanaethau ac adnoddau sy'n seiliedig ar brosiectau ac sydd o fewn cwmpas y cytundeb y gellir eu prynu. Bydd gofyn i'r partner cyflenwi ddatblygu a rheoli cronfa adnoddau o ddarparwyr trydydd parti er mwyn ateb y galw newidiol a'r dirwedd dechnoleg sy'n gyson newid, tra'n hwyluso ymrwymiad Gweinidogion Cymru i gefnogi twf economaidd yng Nghymru.
Bydd penodi'r partner cyflenwi cywir yn hollbwysig er mwyn darparu gwasanaeth o ansawdd am faint elw rhesymol a sicrhau bod y cytundeb yn llwyddiannus. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cael panel gwerthuso sy'n adlewyrchu'r sail gwsmeriaid. Felly, rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gynnal y gwerthusiadau. Caiff ymatebion chwe chwestiwn ysgrifenedig ac arddangosiadau cyflenwyr eu gwerthuso. Gweler yr amserlen amcangyfrifedig isod:
Briff Gwerthuso | Galwad Cynadledda (1 awr) | yr wythnos sy'n dechrau ar 18 Mehefin 2018 |
Gwerthusiad Technegol Unigol | Gwerthuso o bell gan ddefnyddio adnodd eDdyfarnu (3 wythnos) | yr wythnos sy'n dechrau ar 18 Mehefin 2018 |
Cymedroli Technegol | Wyneb yn wyneb neu alwad cynadledda (hanner diwrnod) | yr wythnos sy'n dechrau ar 9 Gorffennaf 2018 |
Briff Arddangos | Galwad Cynadledda (1 awr) | yr wythnos sy'n dechrau ar 9 Gorffennaf 2018 |
Gwerthuso Arddangosiad | Arddangos yn bersonol (2 ddiwrnod) | yr wythnos sy'n dechrau ar 30 Gorffennaf 2018 |
Cymedroli Arddangosiad | Wyneb yn wyneb neu alwad cynadledda (hanner diwrnod) | yr wythnos sy'n dechrau ar 13 Awst 2018 |
Nodwch fod yr amserlen uchod yn un ddangosol a gall nifer yr ymatebion i'r tendr effeithio arni.
Os hoffech gymryd rhan yn elfen ysgrifenedig neu arddangos y gwerthusiadau, cysylltwch â Paul Robertson yn NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru.
Disgwylir i'r contract ddechrau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 1 Hydref 2018.
Y diweddaraf ar fframweithiau digidol, data a TGCh y GCC a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
Mae'r rhan fwyaf o gyflenwyr y fframwaith digidol, data a TGCh wedi llofnodi hysbysiadau newid contract sy'n sicrhau cydymffurfiaeth / rhoi sicrwydd i'r GCC. Ystyriwyd a ddylid atal nifer fach o gyflenwyr nad ydynt wedi ymateb i geisiadau. Os caiff y penderfyniad hwn ei wneud, byddwn yn rhoi gwybod i gwsmeriaid drwy GwerthwchiGymru.
Gweler GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi) i gael y wybodaeth ddiweddaraf.