Newyddion cryno am wasanaethau corfforaethol a chymorth busnes
Yn galw am adborth ar fframwaith gwasanaethau argraffu Cymru gyfan
Rydym yn dechrau cynnal cyfarfodydd adolygu wyneb yn wyneb gyda chyflenwyr ym mis Mai ar Fframwaith Gwasanaethau Argraffu Cymru Gyfan i drafod eu perfformiad a chyfleoedd yn y dyfodol.
Mae hyn yn dilyn yr holiadur diweddar lle y gofynnwyd i gyflenwyr am adborth ar eu profiad o'r fframwaith.
Rydym hefyd wedi llunio holiadur i gwsmeriaid sydd wedi gweithio gyda ni o'r blaen - naill ai drwy'r Grŵp Fforwm Categorïau neu fel defnyddiwr y fframwaith. Rydym am glywed barn cwsmeriaid am y fframwaith, ei addasrwydd a'i berfformiad hyd yma. Os ydych yn gweithio i sefydliad nad yw wedi defnyddio'r fframwaith, ond a fyddai'n ei ddefnyddio pe baem yn gwneud rhywbeth yn wahanol, rhowch wybod i ni beth fyddai hynny.
Mae'r holiadur cwsmeriaid i'w weld yma
Fframwaith gwasanaethau post, gwasanaethau cludo a chyfarpar ystafell bost Cymru gyfan
Rydym wedi bod yn cynnal adolygiadau cyflenwyr ym mis Ebrill. Dylai cwsmeriaid sydd â sylwadau am berfformiad cyflenwyr neu sydd am gyfrannu at yr adolygiadau, gysylltu â'r blwch post categorïau yn NPSCorporateServices@llyw.cymru