Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn ennill gwobr fawreddog CIPS
Gwelwyd gwrthwynebiad cryf gan restr fer yn cynnwys, Baywater Healthcare, boohoo.com, England Rugby 2015, Jaguar Land Rover, London Stock Exchange Group, a Telefonica UK Limited (Unify), ond y GCC â ddaeth i’r brig yn y digwyddiad mawreddog hwn.
Dywedodd y beirniaid, “Mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i Gymru yn enghraifft ardderchog o sefydliad prynu arloesol yn y sector cyhoeddus. O’r cychwyn cyntaf mae’r GCC wedi cyflawni arbedion sylweddol, buddion cymunedol, cyflogaeth ac yn gweithio gyda busnesau bach a chanolig.”
Dywedodd Jane Hutt, Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, wrth longyfarch y GCC ar ei lwyddiant: "Rwy'n falch iawn fod gwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi'i gydnabod yng Ngwobrau Rheoli Cyflenwi mawreddog y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS). Ar adeg o bwysau cynyddol ar gyllidebau, mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn chwarae rôl hanfodol o ran sicrhau arbedion blynyddol ar wariant cyffredin ac ailadroddus ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
"Mae eisoes wedi sicrhau gwerth £9.97 miliwn o arbedion y gellir eu troi'n arian parod, ac mae hefyd yn darparu cyfleoedd hyfforddi gwerthfawr ac yn hybu economi Cymru drwy fuddion cymunedol. Mae'r wobr hon yn dyst i lwyddiant y GCC ac yn enghraifft arall o'n dull arloesol o gaffael yng Nghymru."
Mae'r GCC wedi sicrhau arbedion sylweddol i’w gwsmeriaid ac mae'n sicrhau bod ei holl gontractau a fframweithiau'n ymgorffori egwyddorion allweddol Datganiad Polisi Caffael Cymru. Mae buddion cymunedol yn ofynnol ar bob contract dros £5miliwn, gan gynnwys hyfforddiant a swyddi preswyl, ariannu rhaglenni cymunedol, ac is-gontractio i fusnesau a gefnogir yn cael eu cynnig gan y cyflenwyr.
Mae Gwobrau Rheoli Cyflenwi CIPS yn dathlu rhagoriaeth ac enghreifftiau eithriadol o arfer gorau, gan daflu golwg gynhwysfawr ar y cwmnïau ac unigolion mwyaf arloesol yn y proffesiwn.
Ewch i Wobrau Rheoli Cyflenwi CIPS 2015 i weld rhestr gyflawn o’r enillwyr.