Y Newyddion Diweddaraf am Brexit
Mae pob hysbysiad technegol a gyhoeddwyd hyd yma ar gael yma (disgwylir i ragor o hysbysiadau cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf).
Hoffem dynnu'ch sylw yn arbennig at y nodyn cyfarwyddyd caffael ‘Accessing public sector contracts if there’s no Brexit deal’ (nodyn gan Swyddfa’r Cabinet, Saesneg yn unig).
Bellach, penodwyd tîm newydd i baratoi ar gyfer Brexit o ran materion caffael a masnachol. Sue Moffatt yw pennaeth y tîm, ac ymhlith yr aelodau mae Julie Harrison, Sharon Phillips, Christine Bone a Jane Williams, wedi'u cefnogi gan gydweithwyr yn y maes gwybodaeth busnes, y gyfraith a pholisi.
Lansiwyd ‘Porth Brexit’ Busnes Cymru gan Lywodraeth Cymru hefyd yr wythnos hon – gwefan wedi llunio'n benodol i helpu busnesau wrth iddynt baratoi ar gyfer y newidiadau a'r heriau sy'n deillio o'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae gan y porth ddau amcan:
- Yn gyntaf, darparu gwybodaeth a chyngor cyfredol ar amrywiaeth o bynciau busnes perthnasol (gan gynnwys masnachu rhyngwladol a chynllunio gweithlu) wrth i ni gyrraedd y cyfnod o chwe mis cyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
- Yn ail, darparu offer diagnostig a fydd yn cryfhau'r cymorth presenol a rown i fusnesau, gan godi ymwybyddiaeth am drefnu camau gweithredu perthnasol a ffynonellau cymorth ychwanegol. Bydd hyn yn rhoi rhestr wirio i'r busnesau hynny sydd eisoes yn barod, neu nodi camau gweithredu allweddol i'r rhai sydd angen rhagor o gymorth o bosibl.
Rhannwch y porth hwn â'ch cyflenwyr.