Skip to content

Hysbysiad o Ddyfarniad - Fframwaith Darparu Deunyddiau Glanhau a Phorthorol

Hysbysiad o Ddyfarniad - Fframwaith Darparu Deunyddiau Glanhau a Phorthorol

Mae'r Fframwaith Darparu Deunyddiau Glanhau a Phorthorol (NPS-CFM-0026-15) wedi cychwyn ac ar gael at ddefnydd sefydliadau sy’n aelodau o’r GCC.

13 Hydref 2015

Mae’r GCC wedi dyfarnu’r Fframwaith Darparu Deunyddiau Glanhau a Phorthorol ar draws dwy lot cynnyrch i’r cwmnïau canlynol:

  • 1 - Deunyddiau Glanhau a Phorthorol Cyffredinol: Alliance National, Arrow County Supplies, Arco Ltd, Consolidated Industrial Supplies, Newhall Janitorial, Office Depot UK Ltd, Supplies Team, Toppers Wales
  • 2  - Cemegau Glanhau mewn Swmp: Bunzl Cleaning & Hygiene Supplies, Office Depot UK Ltd, Rexel UK Ltd t/a Newey & Eyre

Mae Lot 1 wedi’i rhannu ymhellach yn dri pharth daearyddol ar gyfer Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, a De Cymru, yn ogystal â pharth Cymru gyfan ar gyfer Lot 2.

Mae’r Canllawiau i Gwsmeriaid ar gael ar wefan GwerthwchiGymru.

Bydd gwybodaeth am rifau adnabod Catalogau ar gyfer marchnad eFasnachu Cymru yn cael ei lanlwytho i wefan GwerthwchiGymru yn fuan.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: NPSConstruction&FM@cymru.gsi.gov.uk.